Amdanom ni
Mae Green GEN Cymru yn falch o fod wedi’i leoli yng Nghymru ac mae’n datblygu rhwydweithiau ynni gwyrdd i ddiwallu anghenion pobl, cymunedau a busnesau Cymru yn y dyfodol.
Mae gennym ni weledigaeth o Gymru sy’n fwy iach ac yn fwy cyfoethog, sy’n defnyddio dulliau glân o gynhyrchu ynni fel pŵer cadarnhaol yn lleol a rhanbarthol, i greu dyfodol mwy cynaliadwy i’r genhedlaeth hon ac i genedlaethau’r dyfodol.
Cynllunio llwybrau ynni gwyrdd ledled Cymru
Fel Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu Annibynnol (IDNO), byddwn ni’n dylunio, yn adeiladu ac yn cynnal rhwydwaith dosbarthu trydan 132kV (132,000- folt) newydd - sydd ei angen i gysylltu prosiectau ynni adnewyddadwy newydd yng Nghymru â’r rhwydwaith trawsyrru trydan, gan helpu i sicrhau ynni gwyrdd i gartrefi a busnesau ar draws Cymru a’r tu hwnt.
Bydd mabwysiadu ffynonellau ynni adnewyddadwy yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau lleol ar draws y wlad. Mae cysylltu cynhyrchu lleol â’r Grid Cenedlaethol yn hanfodol ar gyfer gwella ein hannibyniaeth a’n gwytnwch ynni a’n gwneud yn llai agored i darfu ar gyflenwad ynni’r Deyrnas Unedig. Bydd ein rhwydwaith adnewyddadwy newydd yn creu swyddi ac yn ysgogi twf economaidd, yn lleihau llygredd ac yn gwella iechyd y cyhoedd.
Dulliau lleol a rhanbarthol o sicrhau dyfodol carbon isel
Er mwyn rhoi’r gorau i ddefnyddio tanwyddau ffosil, mae taer angen seilwaith cynaliadwy a chadarn newydd arnom yng Nghymru.
Byddai ein rhwydwaith arfaethedig yn glluogi cysylltiad uniongyrchol rhwng prosiectau cymunedol ac adnewyddadwy eraill, gan leihau’r pwysau ar y grid trydan presennol, cefnogi gwytnwch ynni a galluogi y symudiad i gwresogi gwyrdd a cerbydau trydan.
Un o’r nodau allweddol wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yw cynhyrchu mwy o ynni o ffynonellau adnewyddadwy ac yn raddol rhoi’r gorau i ddefnyddio tanwyddau ffosil.
Er mwyn ymateb i'r her hon a tharged Llywodraeth Cymru i gwrdd â'r hyn sy'n cyfateb i 100% o anghenion trydan Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, rydym ni’n datblygu rhwydwaith trydan adnewyddadwy cryfach a mwy cadarn sydd ei angen yn fawr yng Nghymru – i ddosbarthu ynni glân a gwyrdd.
Pam mae angen y prosiectau hyn?
Rhwydwaith cadarn ar gyfer dyfodol carbon isel
Nid oes gan y rhwydwaith trydan presennol ddigon o gapasiti i gysylltu safleoedd cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd â’r grid cenedlaethol. Mae angen i ni weithredu nawr i adeiladu seilwaith trydan newydd i sicrhau bod ein cymunedau lleol yn gallu elwa o ynni adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru wrth i’n gwlad raddol droi ei chefn ar fod yn ddibynnol ar danwydd ffosil.
Bydd Cysylltiadau Grid Aberedw ac Bryn Gilwern, sydd wedi’u cynnal ar bolion pren, yn cysylltu Parciau Ynni Bute Energy ym Mryn Gilwern ac Aberedw â rhwydwaith dosbarthu lleol newydd arfaethedig mewn gorsaf newid trydan newydd, ar droed Bryn Aberedw, i’r gogledd-ddwyrain o Lanfair-ym-Muallt.
Bydd gan Barciau Ynni arfaethedig Bute Energy ym Mryn Gilwern ac Aberedw, gyda’i gilydd, y capasiti ynni gwynt i gynhyrchu 192 megawat; mae hynny’n ddigon i bweru tua 175,700 o gartrefi ac arbed tua 261,500 o dunelli o garbon y flwyddyn.
I ddysgu mwy am gynigion Bute Energy, ewch i: aberedwenergypark.wales and bryngilwernenergypark.wales.
Amdono brosiectau Aberedw ac Bryn Gilwern
Bydd y ddwy linell uwchben 132kV newydd, sydd wedi’u cynnal ar bolion pren, yn cysylltu Parciau Ynni Bute Energy ym Mryn Gilwern ac Aberedw â rhwydwaith dosbarthu lleol newydd arfaethedig mewn gorsaf newid trydan newydd, ar droed Bryn Aberedw, i’r gogledd-ddwyrain o Lanfair-ym-Muallt.
Mae cysylltiad arfaethedig Aberedw ychydig dros 1 cilometr, ac mae cysylltiad Bryn Gilwern oddeutu 5 cilometr.
Mae’r ddau gysylltiad llinell uwchben yn brosiectau ar wahân, pob un yn gofyn am adborth unigol a cheisiadau ar wahân i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC). Rydym ni’n ymgynghori ar y ddau brosiect gyda’i gilydd oherwydd y bydd y ddau yn cysylltu yn yr un lle.
Mae rhagor o wybodaeth am y ddau brosiect ar gael yn ein Llyfryn ar yr ymgynghoriad anstatudol - Medi i Hydref 2024.
Sut fydd y llinell uwchben polion pren yn edrych?
Bydd y llinellau uwchben ar gyfer cysylltiadau grid Aberedw ac Bryn Gilwern yn cael eu cynnal ar bolion pren.
Mae’r polion fel arfer rhwng 14 ac 16 metr o uchder. Mae’r pellter cyfartalog rhwng y polion pren, neu’r ‘rhychwant’, yn oddeutu 110 metr. Mae union uchder a hyd y polion pren yn amrywio yn dibynnu ar y dirwedd neu’r rhwystrau maen nhw’n eu croesi, fel nentydd ac afonydd. Pan fydd y llinellau arfaethedig yn newid cyfeiriad, bydd gofyn gosod polion onglog, gyda gwifrau tynnu i’w sefydlogi.
Gorsaf newid
Bydd yr orsaf newid arfaethedig wrth droed Bryn Aberedw, yn debyg o ran ymddangosiad i is-orsaf drydan, fel yr is-orsaf bresennol yn Llanfair-ym-Muallt sydd i’w gweld isod.
Bydd yr orsaf newid hefyd yn bwynt cysylltu ar gyfer Parc Ynni arfaethedig Bute Energy yn Nant Mithil (a fydd yn cael ei gysylltu gan brosiect cysylltiad grid 132kV arfaethedig Green GEN Tywi Wysg). Mae'r cynlluniau ar gyfer yr orsaf newid wrthi’n cael eu datblygu a byddan nhw’n cael eu cynnwys yn y cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) ar gyfer ein prosiect cysylltiad grid Tywi Wysg.
I gael rhagor o wybodaeth am yr orsaf newid, ewch i: greengentowyusk.com.
Y broses gynllunio
Mae llinellau trydan 132kV newydd yn cael eu dosbarthu fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid cael caniatâd cynllunio gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC), gyda’r penderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru.
Mae’r ddau gysylltiad llinell uwchben yn brosiectau ar wahân, pob un yn gofyn am adborth unigol a cheisiadau ar wahân i PCAC. Rydym ni’n ymgynghori ar y ddau brosiect gyda’i gilydd oherwydd y bydd y ddau yn cysylltu yn yr un lle.
Bydd yr holl adborth o’n hymgynghoriad yn hydref 2024 yn cael ei ystyried yn ofalus wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau, ynghyd â chanfyddiadau asesiadau technegol, arolygon amgylcheddol, a mewnbwn gan sefydliadau arbenigol. Bydd y sefydliadau hyn, fel Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu’r penderfyniadau rydym wedi’u gwneud hyd yma ac yn darparu cyngor i lywio ein gwaith.
Cyn cyflwyno’r ddau gais cynllunio ar wahân i PCAC, byddwn ni’n cynnal astudiaethau technegol ac amgylcheddol manwl ac yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus statudol, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer 2026. Byddwn ni’n cyhoeddi adroddiad yn crynhoi’r adborth o’r ymgynghoriad anstatudol a sut mae hwn wedi dylanwadu ar ein cynigion. Bydd yr adroddiad hwn yn cefnogi’r ymgynghoriad cyhoeddus nesaf, pan fydd pobl yn gallu rhoi eu barn ar union aliniad y llwybr, gan gynnwys lleoliadau’r polion pren, y llwybrau mynediad a’r ardaloedd gweithio.
Ar ôl i’n cynigion gael eu cwblhau, byddwn ni’n cyflwyno dau gais cynllunio ar wahân i PCAC: un ar gyfer cysylltiad Aberedw ac un ar gyfer cysylltiad Bryn Gilwern.